Cynhelir y Diwrnod Amser i Siarad nesaf ddydd Iau 2 Chwefror 2023.
Ar Ddiwrnod Amser i Siarad rydym yn gofyn wrth y genedl i gael sgwrs am iechyd meddwl. Nod y diwrnod yw creu cymunedau cefnogol drwy siarad â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr am iechyd meddwl. Mae gan bob un ohonon ni iechyd meddwl, a thrwy siarad amdano, gallwn ni helpu ein hunain ac eraill.
Pam mae siarad yn bwysig
Rydyn ni'n gwybod bod gan sgyrsiau am iechyd meddwl y pŵer i newid bywydau. Mae ein hymchwil ddiweddaraf yn dangos pa mor bwysig yw sgyrsiau agored mewn cymunedau i gefnogi lles meddwl pawb.
Mae problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin nag y mae pobl yn ei sylweddoli – ac yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom. Ond mae pobl yn dal i fod ag ofn trafod iechyd meddwl, gan olygu bod rhai pobl yn teimlo cywilydd neu'n unig.
Rydyn ni am i bawb deimlo'n gyfforddus yn siarad am iechyd meddwl – pryd bynnag y byddan nhw am wneud hynny.
Mae siarad am iechyd meddwl yn lleihau'r stigma ac yn helpu i greu cymunedau cefnogol lle y gallwn ni siarad yn agored am iechyd meddwl a chael ein grymuso i ofyn am help pan fydd ei angen arnon ni.
Dyna pam mae dechrau'r sgwrs am broblemau iechyd meddwl mor bwysig – drwy siarad amdanyn nhw, gallwn ni helpu ein hunain ac eraill.
Sut bynnag y gwnewch chi hynny, siaradwch am iechyd meddwl.