Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi arian ychwanegol ar gyfer Amser i Newid Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arian ychwanegol i Amser i Newid Cymru ar gyfer chwe mis arall o ymgyrchu.

1st May 2014, 2.56pm | Ysgrifenwyd gan TTCWales

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arian ychwanegol i Amser i Newid Cymru ar gyfer chwe mis arall o ymgyrchu.

Mae'r £67,500 o arian newydd ar ben £427,000 a wariwyd eisoes ar yr ymgyrch gan Llywodraeth Cymru ers 2011. Caiff yr ymgyrch yng Nghymru hefyd ei hariannu gan y Gronfa Loteri Fawr a Comic Relief.

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, Ant Metcalfe:

"Rydym yn ddiolchgar o gael yr arian hwn am gyfnod ychwanegol o chwe mis gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr arian hwn ynghyd â'r Gronfa Loteri Fawr a Comic Relief yn ein galluogi i adeiladu ar y momentwm rydym wedi'i sicrhau dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn ein helpu i barhau i leihau'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yng Nghymru, sef un o brif amcanion strategaeth iechyd meddwl Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl"

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford:
 
"Mae gwella iechyd meddwl pobl sy'n byw yng Nghymru yn un o brif themâu ein Rhaglen Lywodraethu.
 
"Felly mae'n bleser gennyf gyhoeddi arian ychwanegol ar gyfer ymgyrch Amser i Newid Cymru sydd â'r nod o leihau'r anghydraddoldebau, y stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a salwch meddwl yn eu hwynebu."

Efallai hoffech

Hyforddiant Hyrywddwyr 23 Mehefin

Bydd ein diwrnod hyfforddi hyrwyddwyr nesaf ddydd Iau 23 Mehefin 2022.

26th April 2022, 8.41pm | Ysgrifenwyd gan Alex Peel

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru wedi ymestyn am dair blynedd

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod ymgyrch sy’n helpu pobl i siarad am iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu wedi cael £1.4m yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall.

23rd February 2022, 8.00am

Darganfyddwch fwy