Gwobrau Trydydd Sector Cymru

Daeth Amser i Newid Cymru yn ail yn noson Gwobrau Trydydd Sector Cymru

24th January 2014, 3.03pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Daeth Amser i Newid Cymru yn ail orau yn wobr Class ar gyfer Cyfathrebu Orau yn Gwobrau Trydydd Sector Cymru neithiwr. Trefnwyd y noson wobrwyo yng Nghaerdydd gan Wales Council for Voluntary Action (WCVA).

Roedd aelodau o dîm Amser i Newid Cymru ac Eiriolwyr yr ymgyrch, pobl a phrofiad personol o broblemau iechyd meddwl sydd yn ymgyrchu o fewn eu cymunedau - yn bresennol i wylio Ant Metcalfe, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru yn casglu'r wobr.

Roedd nifer o'r Eiriolwyr yn rhan o ymgyrch hysbysebu diweddar, gan gymryd rhan mewn cyfweliadau ar gyfer fideos ar y we, a chael tynnu eu lluniau ar gyfer posteri a hysbysebion eraill.

Nôd yr ymgyrch oedd dangos sut y gall ambell air bach fel ‘sut wyt ti’n teimlo?’ wneud gwahaniaeth mawr ac y gallwch fod yn arbennig trwy fod yn ffrind.

Dywedodd Ant Metcalfe:

“Mae Cyfathrebu gyda’r cyhoedd a dechrau sgwrs am iechyd meddwl yn angenreidiol i’r ymgyrch, felly mae’n wych i gael derbyn cydnabyddiaeth fel hyn ac rydym yn teimlo yn falch o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni. Rydym yn ddiolchgar i’r WCVA ac i bawb sydd yn rhan o Wobrau Trydydd Sector Cymru.  

Mae rhannu profiadau a storiau pobl sy’n byw a phroblemau iechyd meddwl yn hollbwysig os am gael gwared o’r tabw o amgylch salwch meddwl a gofyn i bobl ddechrau siarad am iechyd meddwl, felly rwy’n ddiolchgar iawn hefyd i’n Eiriolwyr, gwirfoddolwyr sydd wrth galon yr ymgyrch sydd yn cyfrannu i’n marchnata a chyfathrebu mewn gymaint o wahanol ffyrdd.”

Roedd Kate Macnamara, sydd yn Eiriolwr Amser i Newid Cymru, yn bresennol yn y noson wobrwyo. Dywdodd hi:

“Roedd yn ffab i fod yn rhan o ddigwyddiad mor wych a gweld mor bell yr ydym wedi dod ers gwneud yr ymgyrch. Galla i ddim aros i weld faint yn rhagor y gallwn wneud a faint y gallwn ledaenu ymwybyddiaeth dros y flwyddyn nesaf. Rwy’n edrych ymlaen i weithio ar brosiectau newydd, gobeithio yn y gweithle. Mi fyse hynny yn wych!”

Mi allwch weld lluniau o'r digwyddiad ar ein tudalen Flickr

Efallai hoffech

Hyforddiant Hyrywddwyr 23 Mehefin

Bydd ein diwrnod hyfforddi hyrwyddwyr nesaf ddydd Iau 23 Mehefin 2022.

26th April 2022, 8.41pm | Ysgrifenwyd gan Alex Peel

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru wedi ymestyn am dair blynedd

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod ymgyrch sy’n helpu pobl i siarad am iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu wedi cael £1.4m yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall.

23rd February 2022, 8.00am

Darganfyddwch fwy