Gig cyntaf ardderchog i'r rocwyr 'indie' sy'n herio stigma iechyd meddwl

Mae herio'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn bwnc sy'n agos iawn at galon y canwr a'r gitarydd Rhys Hicks - mae'n Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru ac wedi ysgrifennu am ei…

24th April 2014, 2.50pm | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Gig cyntaf ardderchog i'r rocwyr 'indie' sy'n herio stigma iechyd meddwl

Chwaraeodd Maze, band roc 'indie' o Gasnewydd eu gig cyntaf o flaen cynulleidfa lawn yn Café Bar Gwdihŵ yng Nghaerdydd nos Lun, gan roi'r arian a godwyd i Amser i Newid Cymru.

Mae herio'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn bwnc sy'n agos iawn at galon y canwr a'r gitarydd Rhys Hicks - mae'n Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru ac wedi ysgrifennu am ei brofiadau yn byw gydag iselder.

Disgrifiodd prif hyfforddwr Amser i Newid Cymru, Russell Workman, y noson fel 'digwyddiad ardderchog'. Dywedodd:

"Mae Gwdihŵ yn lleoliad bach, 'kitschy' i fyfyrwyr sy'n llawn eitemau retro. Roedd yr ystafell wedi'i haddurno â baneri a balŵns Amser i Newid Cymru, ac roedd dau ohonynt wedi'u tapio'n frysiog i ben carw a oedd wedi gweld dyddiau gwell.

Roedd yr ystafell yn fwrlwm erbyn i'r brif act, sef 'Maze', band Rhys Hicks, gyrraedd y llwyfan. Dywedodd Rhys wrthaf ymlaen llaw ei fod yn nerfus iawn gan nad oedd wedi chwarae'n fyw ers dros ddwy flynedd. Doedd dim arwydd o hyn ac roedd Maze yn uned glos, egnïol a daranodd drwy'r rhestr caneuon a oedd yn cynnwys clasuron a chyfansoddiadau gwreiddiol. Diolchodd Rhys yn fawr i Amser i Newid Cymru wrth iddo egluro ei reswm dros drefnu'r digwyddiad."

Yn dilyn y gig, dywedodd Maze ar Twitter:

“We’re born! It’s official! £240.12 is the grand total raised at our launch gig at @GwdihwCafeBar last night for @TTCWales #EndStigma”

Dywedodd Rhys Hicks, yn flinedig ond yn falch iawn, ar Twitter

“Wow. Shattered. Over £200 raised for @TTCWales by @MazeTheBand”

Diolchodd Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, Ant Metcalfe, i'r band ar ran yr ymgyrch. Dywedodd:

"Mae Rhys yn Hyrwyddwr ardderchog sy'n achub ar bob cyfle i gael pobl i siarad am iechyd meddwl a herio'r stigma y mae wedi'i brofi'n bersonol. Rwy'n ddiolchgar iddo ef a gweddill Maze am ddefnyddio eu gig cyntaf erioed i godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl a chefnogi Amser i Newid Cymru."

Ceir rhagor o wybodaeth am Maze yma a gallwch ddarllen blogiau Rhys ar gyfer Amser i Newid Cymru yma.

Edrychwch ar rai o'r lluniau gwych o'r gig lansio ar ein tudalen Facebook ac ar ein tudalen Flickr.

Efallai hoffech

Hyforddiant Hyrywddwyr 23 Mehefin

Bydd ein diwrnod hyfforddi hyrwyddwyr nesaf ddydd Iau 23 Mehefin 2022.

26th April 2022, 8.41pm | Ysgrifenwyd gan Alex Peel

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru wedi ymestyn am dair blynedd

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod ymgyrch sy’n helpu pobl i siarad am iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu wedi cael £1.4m yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall.

23rd February 2022, 8.00am

Darganfyddwch fwy