Camu ymlaen i rhoi diwedd ar stigma

Dewch i'n digwyddiad yn adeilad y Pierhead i ddarganfod sut mae stigma iechyd meddwl yn effeithio ar fywydau pobl, a beth y gallwch chi wneud i helpu yn eich gweithle neu eich cymuned.

20th January 2014, 3.38pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Mae’n amser i gamu ymlaen i rhoi diwedd ar stigma iechyd meddwl yng Nghymru.

Rhowch nodyn yn eich dyddiadur ar gyfer Chwefror 5.

Mi fydd Amser i Newid Cymru yn cyflwyno digwyddiad arbennig yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd i ddenu sylw at y stigma a’i wynebir gan bobl a phroblemau iechyd meddwl – ac arddangos y gwaith sydd yn cael ei wneud i rhoi diwedd ar gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl o fewn cymunedau a gweithleoedd ledled Cymru.

Noddwyd y digwyddiad gan David Melding AC, gyda prif siaradwr Mark Drakeford AC, yn ogystal a chyfraniadau gan bobl a phrofiad uniongyrchol o broblemau iechyd meddwl sy’n ymgyrchu i rhoi diwedd ar stigma.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am brofiadau pobl o stigma iechyd meddwl yng Nghymru, neu i ddysgu beth y gallwch wneud i helpu rhoi diwedd ar stigma yn eich gweithle neu cymuned chi, hoffwn ni eich gweld chi yna!

I fynychu neu am wybodaeth pellach, ebostwich info@timetochangewales.org.uk.

Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd. 5 Chwefror 2014 10yb – 2yp.

Efallai hoffech

Hyforddiant Hyrywddwyr 23 Mehefin

Bydd ein diwrnod hyfforddi hyrwyddwyr nesaf ddydd Iau 23 Mehefin 2022.

26th April 2022, 8.41pm | Ysgrifenwyd gan Alex Peel

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru wedi ymestyn am dair blynedd

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod ymgyrch sy’n helpu pobl i siarad am iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu wedi cael £1.4m yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall.

23rd February 2022, 8.00am

Darganfyddwch fwy