Diolch yn fawr iawn i chi am eich amynedd gyda ni dros y flwyddyn ddiwethaf heriol wrth i ni atal ein hyfforddiant i fod yn Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru. Er na allwn ni gwrdd wyneb yn wyneb o hyd, rydym ni wedi addasu ein hyfforddiant fel y gallwn ni ddechrau ei gyflwyno yn rhithwir, drwy Zoom. Bydd yr hyfforddiant rhyngweithiol hwn yn digwydd dros ddau ddiwrnod yn olynol mewn dwy sesiwn dwy awr a hanner yr un (gydag egwyl i gael paned!)
Bydd yr hyfforddiant yn rhoi'r canlynol i chi:
- Trosolwg o ymgyrch Amser i Newid Cymru a'r ffordd y gallwch chi gymryd rhan fel Hyrwyddwyr
- Gwybodaeth am y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a'r ffordd rydym ni yn eu herio
- Cipolwg ar ein hadnoddau a sut i'w defnyddio
- Cyfle i gwrdd ag un o'n Hyrwyddwyr sefydledig, a fydd yn rhannu ei stori â chi ac a fydd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am wirfoddoli i Amser i Newid Cymru
- Canllawiau ar sut i ysgrifennu blog neu ffilmio flogiau ar gyfer ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol.
- Cyflwyniad i roi cyflwyniadau gwrthstigma*
*Bydd Hyrwyddwyr sydd am roi cyflwyniadau gwrthstigma yn cael cynnig diwrnod pellach o hyfforddiant, unwaith y byddwn yn gallu cwrdd wyneb yn wyneb. Bydd hyn ar gyfer Hyrwyddwyr sydd am roi sgyrsiau i fusnesau a sefydliadau er mwyn rhannu eu straeon eu hunan o stigma a gwahaniaethu.
Os hoffech chi ddod i'n hyfforddiant rhithwir, rhowch wybod i ni drwy e-bostio info@timetochangewales.org.uk. Bydd lle i 12 o bobl ar gyfer pob cyfres o ddyddiadau – bydd angen i chi ymrwymo i ddod i'r ddwy sesiwn – felly cofiwch drefnu lle yn gynnar. Mae ein dyddiadau hyfforddiant fel a ganlyn:
- Dydd Llun 17 Mai a dydd Mawrth 18 Mai – 9am – 11.30am
- Dydd Iau 10 Mehefin a dydd Gwener 11 Mehefin – 9am – 11.30am
- Dydd Llun 5 Gorffennaf a dydd Mawrth 6 Gorffennaf – 9am – 11.30am
Trosolwg o'r ddau ddiwrnod:
Bydd Rhan 1 o'r hyfforddiant yn cael ei chyflwyno'n rhithwir mewn dwy sesiwn hyfforddiant dros ddau ddiwrnod. Bydd yn cynnwys:
- Cyflwyniad i Ymgyrch Amser i Newid Cymru
- Rôl Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru
- Gweithgareddau i gymryd rhan ynddynt: ysgrifennu blogiau, flogiau a fideos
- Cwrdd â Hyrwyddwr a gwrando ar ei brofiad o fod yn Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru
- Cyflwyniad i sgyrsiau gwrthstigma Amser i Newid Cymru.
Bydd Rhan 2 o'r hyfforddiant yn cael ei gyflwyno cyn gynted ag y byddwn yn gallu cwrdd wyneb yn wyneb eto (er mwyn sicrhau diogelwch yn benodol). Bydd y sesiwn hyfforddiant hon yn cynnwys:
- Gwybodaeth am baratoi a rhoi sgwrs gwrthstigma bersonol a bydd yn gyfle i Hyrwyddwyr rannu eu stori
Paratoi Hyrwyddwyr i gyflwyno gweithgareddau eu hunain fel cyflwyniadau gwrthstigma, stondinau arddangosfeydd ac ati. Nid oes rhaid i Hyrwyddwyr nad ydynt am gyflwyno gweithgareddau eu hunain ddod i hyfforddiant Rhan 2.
Mae Amser i Newid Cymru wedi cyflwyno dau faes blaenoriaeth newydd:
- Atgyfnerthu'r cynnig lles yn y gweithle gyda ffocws newydd ar gymunedau o amddifadedd economaidd-gymdeithasol drwy weithio gyda chyflogwyr a gweithio'n agosach gyda chyrff y llywodraeth a mentrau fel Cymru Iach ar Waith, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau.
- Ymchwilio i stigma iechyd meddwl o fewn cymunedau pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Drwy'r ymarfer gwrando hwn, mae Amser i Newid Cymru yn gobeithio cynrychioli anghenion a safbwyntiau unigolion o gymunedau pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn well.
Yn arbennig, rydym ni'n croesawu ceisiadau i fod yn un o Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru gan unigolion sy'n uniaethu ag unrhyw un o'r ddau faes hyn.
Sut i gofrestru: