Cymraeg

Mae Laura Moulding, Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru, yn ennill categori Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Elusen Cymru cyntaf

Enillodd Laura Moulding, o Tredegar, wobr fawreddog ddydd Gwener 15 Tachwedd yng Ngwobrau Elusen cyntaf Cymru, a drefnwyd gan WCVA i anrhydeddu rhagoriaeth yn y trydydd sector yng Nghymru.

18th November 2019, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Enwyd Laura fel enillydd categori Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn yn y seremoni fawreddog yng Nghaerdydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol, yn dilyn ei hymrwymiad a’i brwdfrydedd chwyrn fel gwirfoddolwr dros Amser i Newid Cymru; ymgyrch genedlaethol i roi diwedd ar stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu yng Nghymru.

Wrth ennill y wobr, dywedodd Laura Moulding, Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru: “Rwyf wrth fy modd ac mae yn anrhydedd fy mod wedi ennill y wobr hon. Mae bod yn wirfoddolwr ar gyfer Amser i Newid Cymru wedi rhoi cymaint o foddhad. Ers dod yn Hyrwyddwr Cymunedol, roeddwn yn gallu cyflwyno sesiynau gwrth-stigma a siarad yn agored am fy nhaith iechyd meddwl, ynghyd â darparu cefnogaeth gyda digwyddiadau, cynadleddau a sesiynau briffio polisi. Fel rhywun sydd â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl, doeddwn i ddim yn meddwl bod gen i'r dewrder i siarad.

Fodd bynnag, er gwaethaf fy mhryder ac ofnau, ymunais fel Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru oherwydd nad oeddwn am i unrhyw un arall fynd trwy'r distawrwydd a thorcalon stigma a gwahaniaethu fel y gwnes i. Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw herio stigma a gwahaniaethu iechyd meddwl yng Nghymru, ac rwy’n wirioneddol falch o fod yn rhan o’r ymgyrch genedlaethol hon.”

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr WCVA, trefnwyr Gwobrau Elusen Cymru newydd sbon: “Mae’r enillwyr i gyd wedi gosod y safon ar gyfer rhagoriaeth yn y trydydd sector yng Nghymru ar y noson: yn sicr yn olau disglair! Chwythwyd y panel beirniadu gan yr ymroddiad a’r angerdd go iawn a ddangoswyd wrth ddarparu eu gwasanaethau sy’n newid bywydau, a’r ffordd y maent wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cymaint. Ychydig yn unig a gyrhaeddodd y rhestr fer, felly mae ennill y wobr hon braidd yn arbennig. Dylent fod yn falch iawn ohonynt eu hunain.”

Efallai hoffech

Hyforddiant Hyrywddwyr 23 Mehefin

Bydd ein diwrnod hyfforddi hyrwyddwyr nesaf ddydd Iau 23 Mehefin 2022.

26th April 2022, 8.41pm | Ysgrifenwyd gan Alex Peel

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru wedi ymestyn am dair blynedd

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod ymgyrch sy’n helpu pobl i siarad am iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu wedi cael £1.4m yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall.

23rd February 2022, 8.00am

Darganfyddwch fwy