Astudiaeth achos: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Darllenwch sut mae Ruth wedi bod yn gwirfoddoli fel Hyrwyddwr Llesiant ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a buddiannau hyn i'w chydweithwyr.

1st June 2020, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Ruth

Yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon, darllenwch sut mae Ruth wedi bod yn gwirfoddoli fel Hyrwyddwr Llesiant ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a buddiannau hyn i'w chydweithwyr.

"Mae Ruth yn Hyrwyddwr Llesiant gwych ac mae wedi trefnu sesiwn Addewid, ennill cyllid gan Tesco i gefnogi seibiannau coffi, ac mae'n gwneud cais i sicrhau cyllid er mwyn helpu staff i gael ardal awyr agored addas ar gyfer eu seibiannau. Mae'n ychwanegu llawer at yr adran Ffiseg Radiotherapi ac mae'r staff ym Mae Abertawe yn hapusach ac yn iachach oherwydd ei chyfraniadau."

Fel Hyrwyddwr Llesiant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sydd â phrofiad personol o broblemau iechyd meddwl, helpais i drefnu seibiannau coffi llesiant, yn enwedig ar ddiwrnod Amser i Siarad, ac yn ystod y seibiannau hyn gwnaethon ni weithio ar leihau stigma iechyd meddwl, er enghraifft, drwy wneud cwisiau hwyl o wefan Amser i Newid Cymru a rhannu straeon ac ati. 

Yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, gwnaethon ni barhau â seibiannau te ar-lein ac roedd hyn yn ddefnyddiol iawn i staff a oedd yn cadw pellter cymdeithasol gartref a ddywedodd wrthyf eu bod wedi colli eu dulliau arferol o ymdopi. Gwnaeth y seibiannau te ar-lein hyn yn enwedig helpu i ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol i hyfforddeion nad oedden nhw'n gallu mynd i'r adran yn ystod camau olaf eu hyfforddiant.

Rwyf wedi cael llawer o gymorth gan fy rheolwyr, Ryan a Rachel, a gan Bethan Lavercombe, rheolwr y rhaglen Hyrwyddwr Llesiant, sydd wedi parhau i fy annog yn ystod y gweithgareddau hyn, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny.

-Ruth

Efallai hoffech

Hyforddiant Hyrywddwyr 23 Mehefin

Bydd ein diwrnod hyfforddi hyrwyddwyr nesaf ddydd Iau 23 Mehefin 2022.

26th April 2022, 8.41pm | Ysgrifenwyd gan Alex Peel

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru wedi ymestyn am dair blynedd

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod ymgyrch sy’n helpu pobl i siarad am iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu wedi cael £1.4m yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall.

23rd February 2022, 8.00am

Darganfyddwch fwy