Prifysgol Caerdydd am weld diwedd ar stigma iechyd meddwl

Prifysgol Caerdydd yw'r sefydliad proffil uchaf diweddaraf i ymrwymo i roi diwedd ar y stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl drwy lofnodi Addewid Sefydliadol Amser i Newid Cymru

13th June 2014, 9.46am | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Prifysgol Caerdydd yw'r sefydliad proffil uchaf diweddaraf i ymrwymo i roi diwedd ar y stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl drwy lofnodi Addewid Sefydliadol Amser i Newid Cymru mewn digwyddiad prysur ar ei champws yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.


Llofnodwyd yr addewid gan yr Athro Elizabeth Treasure, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n rhan o ffocws ehangach ar les staff a myfyrwyr yn y brifysgol.  


Dywedodd yr Athro Treasure:

"Rwy'n llofnodi'r addewid ar gyfer y staff, ac ar eu rhan. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi lles ei staff ac, yn ddiweddar, rydym wedi edrych ar y ffordd rydym yn gwneud hyn a'r ystod o wasanaethau sydd ar gael. Ein cyswllt diweddar â darparwr Cymorth i Weithwyr a bellach ein hymrwymiad i Amser i Newid yn rhai o'r ffyrdd rydym yn ceisio ategu ein darpariaeth gwasanaeth mewnol hirsefydlog ein hunain.

Fel rhan o'n hymrwymiad i Amser i Newid, byddwn yn sefydlu Gweithgor Iechyd Meddwl ac yn datblygu cynllun gweithredu er mwyn sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo'n llawn i'r addewid hwn ac i weithio gydag Undeb y Myfyrwyr er mwyn ein helpu i fynd i'r afael â'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl i staff a myfyrwyr."

Tina Abbott yw Rheolwr Cwnsela Staff Prifysgol Caerdydd ac mae'n ffigur allweddol o ran creu'r cynllun gweithredu a'r Gweithgor Iechyd Meddwl. Dywedodd:

"Roeddwn wrth fy modd â'r gefnogaeth a gafodd digwyddiad llofnodi addewid Amser i Newid ddydd Llun. Roedd nifer dda iawn yn bresennol yn y digwyddiad, gan gynnwys llawer o uwch reolwyr, ac mae yma awydd cadarnhaol iawn i ddatblygu'r Cynllun Gweithredu yn y Brifysgol. Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at weithio ar y prosiect hwn gyda'r Gweithgor Iechyd Meddwl."

Amser i Newid Cymru yw'r ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. Dywedodd Rheolwr y Rhaglen, Ant Metcalfe, a weithiodd gyda'r brifysgol er mwyn llofnodi'r addewid:

"Rydym wrth ein bodd bod Prifysgol Caerdydd wedi cymryd camau i roi diwedd ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl drwy lofnodi Addewid Sefydliadol Amser i Newid Cymru.  

Yn ogystal â chyfleu'r neges bod angen siarad am iechyd meddwl yn y gweithle, mae llofnodi'r addewid hefyd yn ymrwymiad i ddatblygu cynllun gweithredu a rhoi polisïau a chamau gweithredu cadarn ar waith. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i staff a phobl sy'n dod i gysylltiad â'r brifysgol, sydd wedi cael problemau iechyd meddwl. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu'r cynllun hwnnw a helpu i roi diwedd ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl."

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Amser i Newid Cymru yn 2013 wedi datgelu bod bron i hanner y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn teimlo bod stigma wedi eu hatal rhag gweithio. Datgelodd hefyd na fyddai'r rhan fwyaf o weithwyr sydd â phroblem iechyd meddwl yn teimlo'n gyfforddus yn dweud wrth gydweithiwr neu reolwr am eu profiadau. Nod ymgyrch ddiweddaraf Amser i Newid Cymru yw newid hyn drwy ddangos sut y gall pethau bach y gall unrhyw un eu gwneud, fel gofyn 'sut wyt ti?' a siarad am iechyd meddwl, wneud gwahaniaeth mawr.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bit.ly/byddynffrind.

 

I ddarganfod sut y gall eich gweithle chi helpu rhoi diwedd ar stigma iechyd meddwl, cliciwch yma.

Efallai hoffech

Hyforddiant Hyrywddwyr 23 Mehefin

Bydd ein diwrnod hyfforddi hyrwyddwyr nesaf ddydd Iau 23 Mehefin 2022.

26th April 2022, 8.41pm | Ysgrifenwyd gan Alex Peel

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru wedi ymestyn am dair blynedd

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod ymgyrch sy’n helpu pobl i siarad am iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu wedi cael £1.4m yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall.

23rd February 2022, 8.00am

Darganfyddwch fwy