• Y Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, 21-24 Gorffennaf
• Yr Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli, 1-9 Awst
Rydym yn edrych am Eirilowyr sydd a’r awydd a’r hyder i ymgysylltu a’r cyhoedd ac i ddechrau sgyrsiau am sut mae i fyw â phroblem iechyd meddwl. Trwy gwneud, mi fyddwch yn herio rhagfarnau am iechyd meddwl a helpu i roi diwedd ar stigma a gwahaniaethu.
Mi fyddwn yn darparu hyfforddiant cyn y Digwyddiad, cymorth ar y dydd gan Cydlynydd Gwirfoddolwyr a costiau teithio, ynghyd a crys-t Amser i Newid Cymru. Rydym yn gofyn am ymrwymiad o hanner dydd o leiaf, sy’n treulio dim mwy na tua tair i bedair awr o hyd.
Am fwy o wybodaeth neu i gofrestri eich diddordeb, ebostiwch gan nodi pa digwyddiad sydd o ddiddordeb gennych a byddwn mewn cysylltiad a fwy o wybodaeth cyn hir.
Edrychwn ymlaen i glywed gennych!
Efallai hoffech
Hyforddiant Hyrywddwyr 23 Mehefin
Bydd ein diwrnod hyfforddi hyrwyddwyr nesaf ddydd Iau 23 Mehefin 2022.
Darganfyddwch fwyAmser i Newid Cymru wedi ymestyn am dair blynedd
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod ymgyrch sy’n helpu pobl i siarad am iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu wedi cael £1.4m yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall.
Darganfyddwch fwy